Theresa May
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May heddiw yn gwneud datganiad i Aelodau Seneddol ynglŷn â honiadau o gam-drin plant yn San Steffan yn yr 80au, wrth i’r pwysau gynyddu am ymchwiliad cyhoeddus.
Mae’r cyn weinidog Ceidwadol yn y Cabinet, yr Arglwydd Tebbit wedi ychwanegu at y pwysau dros y penwythnos gan awgrymu y gallai achosion fod wedi cael eu celu ar y pryd er mwyn diogelu’r “system”.
Daeth ei honiadau ymfflamychol ar ôl i’r Swyddfa Gartref gyfaddef bod mwy na 100 o ddogfennau’n ymwneud ag achosion o gam-drin honedig dros gyfnod o 20 mlynedd wedi mynd ar goll.
Yn ôl adroddiadau heddiw mae’r heddlu wedi dod o hyd i ddioddefwr honedig sydd wedi “cysylltu gwleidydd blaenllaw” a’r achosion honedig o gam-drin.
Mae’r dyn, sydd bellach yn ei 40au, wedi rhoi manylion ynglŷn â sut y cafodd ei gam-drin, meddai’r Telegraph, ond mae wedi gwrthod hyd yn hyn i wneud datganiad ffurfiol i’r heddlu.
Wrth ymddangos ar raglen y BBC The Andrew Marr Show ddoe, dywedodd yr Arglwydd Tebbit bod y sefyllfa adeg yr honiadau yn wahanol iawn i beth yw heddiw.
“Ar y pryd rwy’n credu y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo y dylai’r sefydliad, y system, gael ei diogelu ac os oedd rhai pethau wedi mynd o’u lle yma ac acw, yna roedd yn bwysicach i amddiffyn y system yn hytrach nag ymchwilio’n rhy fanwl i’r peth,” meddai.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu bod y mater wedi cael ei gelu ar y pryd, fe atebodd: “Rwy’n credu y gallai fod wedi.”
Mae llefarydd y Blaid Lafur Yvette Cooper wedi cyhuddo’r Swyddfa Gartref o fethu ag ymateb i bryderon y cyhoedd ac wedi galw am ymchwiliad pellgyrhaeddol i’r mater.