Mae’r farchnad yswiriant ceir yn un “gamweithredol iawn” sydd wedi gweld cynnydd mewn prisiau i gwsmeriaid am fod pobol yn twyllo er mwyn gwneud elw, yn ôl adroddiad gan Aelodau Seneddol.

Roedd yr adroddiad gan Bwyllgor Trafnidiaeth Tŷ’r Cyffredin yn cyfeirio at rai achosion lle bu “gweithredu troseddol” ar ôl i gwmnïau yswiriant dalu iawndal yn dilyn honiadau o whiplash cyn gwneud y profion meddygol priodol.

Ac roedd tystiolaeth o ffyrdd newydd o dwyllo wedi dod i’r fei, sy’n cynnwys archebu adroddiadau meddygol ffug yn dilyn damweiniau ffyrdd.

Mae camau wedi eu rhoi mewn lle i wahardd cwmnïau rhag cynnig talu iawndal i bobol cyn cael archwiliad meddygol, yn ôl y pwyllgor:

“Rydym yn cytuno y buasem yn hoffi gweld yr arfer hwn wedi ei wahardd yn gyfan gwbl.”

Roedd aelodau hefyd yn cytuno mewn egwyddor gyda’r Llywodraeth y dylai achosion llys gael eu taflu allan pan mae pobol yn ceisio hawlio arian yn “anonest” a chamarweiniol.