Tai traddodiadol yn Burkina Faso (Neonstar CC BY-SA 3.0)
Mae Swyddfa Gartref Prydain wedi gwrthod rhoi fisa i dri gweinidog o Affrica oedd yn bwriadu dod i siarad â phlant o Ddyffryn Teifi ynglŷn â chaledi bywyd yn eu gwlad.
Yn ôl cefnogwyr y tri, sail y gwrthod yw nad oes gan y gweinidogion ddigon o arian personol – er fod byw heb lawer o eiddo personol yn rhan o’u cred.
Mae pobol leol yn ardal Pencader yn dweud eu bod yn “siomedig iawn” gyda’r penderfyniad ac mae’r Aelod Seneddol lleol, Jonathan Edwards, hefyd wedi beirniadu’r Swyddfa Gartref.
‘Siomi plant’
“Dyma siomi plant y fro a cholli cyfle unigryw iddyn nhw weld yn uniongyrchol realiti bywyd mewn pentref Affricanaidd,” meddai Meinir Ffransis o Lanfihangel ar Arth, sy’n aelod o gylch Cristnogol lleol o’r enw Coda Ni.
Yn ystod y pedair blynedd ddiwetha’, maen nhw wedi codi bron i £20,000 i gefnogi prosiectau Cymorth Cristnogol yn Burkina Faso, ar gyrion y Sahara.
Roedd y gweinidogion, a fu’n helpu gydag un o’r prosiectau, i fod i ymweld â Dyffryn Teifi yr wythnos hon, yn rhan o daith yng Nghymru a’r Alban i drafod bywyd mewn pentref Affricanaidd a gwaith yr eglwys yno.
Gwrthod
Fe fu’n rhaid i’r tri gweinidog i deithio 500 milltir at Lysgenhadaeth Prydain yn Ghana i wneud cais am fisa, ond fe wrthodwyd y cais ar y sail nad oedd ganddyn nhw ddigon o arian personol.
“Yr holl bwynt yw bod y gweinidogion hyn yn byw heb eiddo personol ac wedi rhoi eu bywydau i Iesu,” meddai Meinir Ffransis.
Mae llawer o arian Coda Ni wedi mynd at adeiladu storfeydd bwyd, helpu cymunedau gwledig i blannu hadau newydd ac amddiffyn eu tir rhag llifogydd sydyn.
Cyswllt rhwng ysgolion
Mae Coda Ni wedi creu cyswllt gydag ysgol ym m hentref Saouga, yn yr un ardal o Burkina Faso, ac mae plant o ysgolion fel Caerfelin ym Mhencader a Llandysul wedi anfon dillad ac anrhegion yno, yn ogystal ag arian i drwsio ffynnon ddŵr yr ysgol.
“Byddai clywed am y caledi bywyd sy’n digwydd yn y wlad wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i blant Dyffryn Teifi,” meddai Meinir Ffransis.
“Byddai gweld y bobol a chlywed am sut mae Cristnogaeth newid eu bywydau nhw wedi dod â’r holl beth yn fyw iddyn nhw.”
Codi arian
Mae Coda Ni yn trefnu diwrnod o godi arian gyda stondinau yng Nghanolfan Integredig Ysgol Gynradd Llandysul am 4.30pm, 13 Gorffennaf.