David Cameron
Bydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn galw ar y “mwyafrif tawel” o Albanwyr sydd am aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig i godi’u llais pan fydd e’n teithio dros y ffin heddiw.
Fe fydd Cameron yn cyflwyno’i resymau tros geisio sicrhau bod Yr Alban yn aros yn rhan o’r DU, gan ddweud y gall pobol “fod yn falch o fod yn Albanaidd tra’n aros yn y DU”.
Fe fydd Cameron yn dweud: “Rydyn ni wedi clywed sŵn y lleiafrif Cenedlaetholgar, ond nawr mae’n bryd i leisiau’r mwyafrif tawel gael eu clywed.
“Y mwyafrif tawel sy’n teimlo’n hapus i fod yn rhan o’r DU, y mwyafrif tawel nad ydyn nhw am gael y risg o fynd ar eu pennau eu hunain, y mwyafrif tawel sy’n gofidio am yr hyn y byddai gwahanu’n ei olygu i’w plant a’u hwyrion.
“Gyda 77 o ddiwrnodau i fynd, mae angen lleisiau niferus i fod yn groch ar draws y wlad.
“Rydyn ni wedi cyflawni cymaint gyda’n gilydd, rydyn ni’n fwy diogel gyda’n gilydd, rydyn ni’n well ein byd gyda’n gilydd, mae gyda ni’r gorau o ddau fyd gyda’n gilydd.”
Dywedodd fod gormod o bobol yn teimlo nad ydyn nhw’n “gallu bod yn Albanwyr balch a dweud ‘Dim diolch’”.
Ychwanegodd nad oes angen “dewis rhwng y Saltire a baner yr Undeb”.
‘Babanod cyn bomiau’
Ond mae nifer wedi beirniadu safbwynt Cameron, gan gynnwys prif weithredwr ymgyrch ‘Ie’r Alban’, Blair Jenkins.
Dywedodd fod Cameron wedi cael camargraff “os yw’n meddwl bod yna fwyafrif tawel yn yr Alban sy’n ffafrio’r Torïaid a’u hagenda llymder”.
“Diolch i system San Steffan, mae 30,000 yn rhagor o blant yn Yr Alban wedi cael eu gwthio i mewn i dlodi oherwydd toriadau lles y Torïaid – ond mae pleidiau San Steffan am wario hyd at £4 biliwn y flwyddyn ar arfau niwclear Trident newydd.
“Does dim byd gwell i dynnu sylw at yr angen am bleidlais ‘Ie’ ym mis Medi, fel y gallwn ni ddodi babanod cyn bomiau.”
Pleidleiswyr ansicr yn allweddol
Yn y cyfamser, mae un o arweinwyr yr ymgyrch tros ddatganoli yn Yr Alban yn 1997 wedi dweud bod sicrhau pleidleisiau’r etholwyr ansicr yn allweddol i ganlyniad y refferendwm.
Roedd Nigel Smith yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol oedd o blaid datganoli 17 o flynyddoedd yn ôl, ‘Ie/Ie’.
Dywedodd wrth BBC Yr Alban mai “pleidleiswyr gwan piau’r etholiad – y rhai sydd efallai’n ail-feddwl, ac mae’r garfan honno efallai’n rhyw 30%.”