Mae mesurau diogelwch wedi cael eu tynhau mewn meysydd awyr ym Mhrydain ar ôl i’r Unol Daleithiau rybuddio am fygythiad terfysgol posib.
Yn ôl adroddiadau mae dau grŵp terfysgol yn Yemen a Syria wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu bom na fyddai’n gallu cael ei ddarganfod gan y mesurau diogelwch presennol.
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi rhybuddio y gall y mesurau ychwanegol – sydd heb gael eu datgelu – achosi rhywfaint o oedi i deithwyr.
Mae’r mesurau diogelwch wedi cael eu tynhau mewn meysydd awyr lle mae awyrennau’n teithio’n uniongyrchol i’r Unol Daleithiau.