Fe fydd diffoddwyr tân yn ymuno â thua dwy filiwn o athrawon, gweision sifil a gweithwyr cyngor lleol ar 10 Gorffennaf, i gynnal streic dros anghydfod ynglŷn â chyflogau a phwysau gwaith.

Dyma fydd y streic fwyaf ers i’r Llywodraeth Glymblaid bresennol gael ei hethol, ac mae bwriad gan weithiwyr i gynnal streiciau eraill yn ystod y flwyddyn.

Mae diffoddwyr tân eisoes wedi cynnal cyfres o streiciau sy’n galw am gytundeb pensiwn deg, wedi i’r Llywodraeth gyhoeddi amodau newydd fyddai’n golygu bod rhai gweithwyr yn colli 47% o’u pensiynau.

Bydd y diffoddwyr tân yn streicio rhwng 10 y bore a 7 yr hwyr a dyma fydd y pymthegfed tro iddyn nhw gerdded allan o’u gwaith.

‘Difetha bywydau’

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Frigâd Dân (FBU), Matt Wrack fod y streiciau yn parhau “am nad yw Llywodraeth Prydain yn gwrando o gwbl.”

“Mae’r ffaith fod y Llywodraeth wedi achosi i gymaint o weithwyr streicio gyda’i gilydd yn profi methiant ei pholisïau.”

“Maen nhw’n dinistrio ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn difetha bywydau miliynau o bobol.”

Daw’r streic ar ôl i Lywodraeth Gogledd Iwerddon gyhoeddi ei bod am adael i ddiffoddwyr tân ymddeol yn 55 oed, a hynny dan amodau eu pensiynau presennol.

Ond mae Llywodraeth Prydain yn dadlau bod diffoddwyr tân yn cael y fargen orau o gymharu â holl weithwyr eraill y sector cyhoeddus, ac na fydd y newidiadau’n effeithio dim ar dri chwarter aelodau’r undeb.