Bydd miliynau o weithwyr yn cael yr hawl i ofyn am oriau gweithio hyblyg o heddiw ymlaen o dan fesurau newydd gan Lywodraeth y DU.

Cyn hyn, dim ond gofalwyr neu bobl sy’n gofalu am blant o dan 17 oed oedd yn cael gofyn am newid oriau gwaith.

Meddai’r Llywodraeth y bydd y mesurau yn helpu pobl i gydbwyso eu gwaith â chyfrifoldebau gan gadw mwy o bobl mewn cyflogaeth tymor hir a galluogi cwmnïau i gadw staff.

Mae disgwyl y bydd yr hawl newydd o ddiddordeb arbennig i weithwyr hŷn sydd am weithio’n wahanol wrth iddynt agosáu at oedran ymddeol ac i bobl ifanc sydd am fanteisio ar hyfforddiant ac addysg bellach tra maen nhw’n gweithio.

Bydd rhaid i unrhyw gais gael ei ystyried mewn “modd rhesymol” gan gyflogwyr, tra bod y broses yn cael ei wneud yn symlach.

‘Hwb i gynhyrchiant’

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg: “Mae busnesau modern yn gwybod bod oriau gwaith hyblyg yn rhoi hwb i gynhyrchiant ac i ysbryd y staff. Mae’n hen bryd i ni ddiweddaru arferion gweithio  i gwrdd ag anghenion, a dewisiadau ein teuluoedd modern. “

Dywedodd John Allan, cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach: “Mae busnesau bach yn aml yn gweithio mewn timau clos ac yn hyblyg yn ôl natur. Mae llawer o fusnesau bach, felly, eisoes yn cynnig oriau gweithio hyblyg ac yn cydnabod manteision gwneud hynny heb yr angen am hawl i wneud cais.”