Mae pedwar dyn o Gasnewydd wedi cael eu dedfrydu i 12 mlynedd yr un yn y carchar am gynllwynio i lofruddio.

Cafodd Lewis Bridge, Brogan Hooper, Gary Rabjohns a Ryan Battersby o Gasnewydd eu canfod yn euog o ddefnyddio car 4×4 i daro yn erbyn car arall a thanio gwn tuag at dri theithiwr.

Roedd yr ymosodiad, a ddigwyddodd ar Ffordd Cas-gwent fis Medi diwethaf, yn ymwneud ag anghydfod ynglŷn â chyffuriau a dyled.

Clywodd y llys fod gan y pedwar dyn record o droseddau blaenorol.

Heddiw, fe gafodd y pedwar eu dedfrydu i gyfanswm o 48 mlynedd o garchar.