Mae heddlu De Swydd Efrog yn apelio am wybodaeth, wedi i leidr 24 oed ddianc o garchar.

Fe lwyddodd Damian Pearson i dorri’n rhydd o HMP Hatfield yn Doncaster tua 7 o’r gloch fore heddiw. Dyw’r heddlu ddim yn dweud, ar hyn o bryd, sut yn union y llwyddodd i ddianc.

Fe gafodd Damian Pearson ei ddedfrydu i dreulio tair blynedd a hanner dan glo ar ddechrau 2013. Er nad yw’n cael ei ystyried yn ddyn peryglus, mae’r heddlu’n cynghori pobol i beidio â mynd yn agos ato.

Mae wedi ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 6’1″ o daldra, gyda chysylltiadau â Doncaster, yn enwedig ag ardal Wheatley Park.