William Hague
Mae William Hague yn “cydymdeimlo” â chyn-sbin ddoctor Rhif 10, Stryd Downing, wrth iddo wynebu gorfod treulio hyd at ddwy flynedd yng ngharchar.

Mae’r Gweinidog Tramor wedi gwadu mai ef ei hun a gyflwynodd y cyn-olygydd papurau tabloid i fosus y blaid Geidwadol. Fe gafwyd Andy Coulson, 46, yn euog yr wythnos ddiwetha’ o fod yn rhan o gynllwyn i hacio ffonau symudol pobol enwog, aelodau o’r teulu brenhinol, gwleidyddion a phobol gyffredin.

“Mae gen i bob amser gydymdeimlad tuag at bobol sydd wedi’u cael eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd, p’un ai ydyn nhw wedi cael eu hunain i drwbwl ai peidio,” meddai William Hague ar raglen Andrew Marr Show ar BBC1 fore heddiw.

Ond, wedi dweud hynny, mynegodd yn glir ei fod yn credu ei bod hi’n iawn i gyn-olygydd The Sun a News of the World, Rebekah Brooks, hefyd i fod wedi gorfod sefyll ei phrawf – er ei bod wedi clirio ei henw ar bob un o’r cyhuddiadau yn ei herbyn.

“Cyn yr achosion llys yma, roedd yna rhyw ymdeimlad fod newyddiadurwyr uwchlaw’r gyfraith,” meddai William Hague. “Dw i ddim yn meddwl fod neb yn credu hynny bellach.”