David Blunkett AS (Llun llyfrgell)
Bydd Llafur yn y diffaethwch gwleidyddol hyd at 2003 os na fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf yn ôl David Blunkett AS.

Daeth ei rybydd i’w blaid wrth iddo gyhoeddi ei ymddeoliad ar ôl cynrychioli etholaeth Sheffield Brightside a Hillsborough ers 1987.

Mewn cyfweliad efo’r BBC, dywedodd y bydd llwyddiant i’r Ceidwadwyr yn 2015 yn sicrhau llywodraeth fydd yn canolbwyntio ar “gau’r Blaid Lafur allan am hyd at 15 mlynedd.”

Mae Mr Blunkett yn credu y gall Ed Milliband gario’r dydd beth bynnag, ac ychwanegodd mai ef “yw’r unig ddyn” i arwain y blaid.

Fe fu Mr Blunkett yn ysgrifennydd Addysg, Ysgrifennydd Cartref ac Ysgrifennydd Pensiynnau yn llywodraethau Tony Blair.