Ed Miliband
Dylai pobl ifainc ddi-waith golli eu budd-daliadau oni bai eu bod yn cytuno i gael hyfforddiant mewn sgiliau hanfodol, yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband.
Mae disgwyl i Ed Miliband ddweud y dylai pobl rhwng 18-21 oed gael lwfans arbennig yn hytrach na budd-daliadau.
Fe fydden nhw’n cael yr arian ar yr amod eu bod yn cytuno i gael hyfforddiant i ddysgu sgiliau.
Bwriad Ed Miliband yw rhoi taw ar honiadau’r Ceidwadwyr mai Llafur yw “plaid y budd-daliadau”.