Yn dilyn damwain angheuol ger Aberystwyth lle bu farw pedwar aelod o’r un teulu, mae Llywodraeth Cymru wedi ail-ddatgan ei hymrwymiad i wneud ffyrdd Cymru mor ddiogel â phosib.
Bu farw John Kehoe, 72, ei wraig Margaret, 65, Martin Pugh, 47, ac Alison Hind, 28, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car, fan a thancer ar ffordd yr A44 ddydd Mawrth.
Mae merch fach Alison Hind, sy’n flwydd a hanner, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae beirniadaeth wedi bod yn lleol i ddiogelwch y ffordd, a’i bod yn brysur ac yn droellog iawn.
Yn dilyn y ddamwain, dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, bod angen buddsoddi er mwyn gwella diogelwch yr A44:
“Dyw’r ffordd yma heb dderbyn gwelliannau ac mae angen edrych ar y ffordd yn ei chyfanrwydd,” meddai wrth siarad ar Radio Cymru.
“Mae tristwch enfawr pan mae colli bywyd yn dilyn damwain fel yma. Mae pawb yn meddwl hefyd am y ferch fach sydd yn ymladd am ei bywyd yn yr ysbyty.”
Lleihau damweiniau
Dywed y Llywodraeth ar eu gwefan: “Fel rhan o Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru, rydym wedi pennu targedau heriol ar gyfer lleihau nifer y bobol sy’n cael eu hanafu neu eu lladd ar ein ffyrdd.
“O’i gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer 2004-2008, rydym am weld y canlynol yn cael ei wneud erbyn 2020:
- gostyngiad o 40% (neu 562 o bobl) yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru
- gostyngiad o 25% (neu 64 o feicwyr) yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru
- gostyngiad o 40% yn nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 24 (neu 139 o bobl ifanc) yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.