Fe fydd 2,600 o bobol sy’n gweithio i gwmni archfarchnad Morrisons yn colli eu swyddi, wedi i’r cwmni gyhoeddi eu bod am foderneiddio a symleiddio sut mae’r siopau’n cael eu rhedeg.

Mae’r prif weithredwr, Dalton Philips, wedi dweud ei fod am gael gwared a swyddi er mwyn ceisio cael llai o fwlch rhwng gweithwyr yn y siop a’r rheolwyr.

Bydd 2,600 o swyddi yn diflannu, ond fe ddywedodd y cwmni eu bod yn bwriadu creu 1,000 o swyddi eraill mewn siopau llai a 3,000 yn yr archfarchnadoedd. Dywed y cwmni hefyd y bydden nhw’n ceisio adleoli staff lle bo modd.

“Bydd y newidiadau yn rhoi mwy o ffocws ar ein cwsmeriaid yn y gobaith o arwain at ffyrdd symlach o weithio,” meddai Dalton Philips.

Mae 32 o archfarchnadoedd Morrisons yng Nghymru ond nid yw’r cwmni yn gwybod faint o swyddi fydd yn diflannu  ar hyn o bryd.

Ar eu colled

Ym mis Mawrth, fe gyhoeddodd y cwmni archfarchnad golledion blynyddol o £176 miliwn ym mis Mawrth, ar ôl gwneud elw o £879 miliwn yn y flwyddyn flaenorol.