Llong danfor Trident
Mae mwy o Albanwyr eisiau i daflegrau niwclear Trident aros yn y wlad ar ôl annibyniaeth nag sydd eisiau iddyn nhw adael y wlad, medd pôl piniwn newydd.

Dywedodd 41% o bobol yr Alban y dylai taflegrau Trident barhau yn Faslane yn Ystrad Clud, tra bod 37% yn dweud y dylen nhw adael, mewn ymateb i arolwg gan NatCen.

Mae’r SNP wedi dweud y byddan nhw’n cael gwared â’r llynges danfor o aber yr afon Clyde os bydd yr Alban yn pleidleisio Ie ar Fedi 18. Mae Aberdaugleddau wedi cael ei gynnig fel lleoliad posib ar gyfer y llongau tanfor, ac yn 2012 dywedodd Carwyn Jones y byddai “mwy na chroeso” iddyn nhw am y byddai hynny’n creu swyddi yn lleol.

Yng Nghymru a Lloegr dywedodd ychydig dros chwarter y bobol – 26% – y dylai arfau niwclear Prydain barhau yn yr Alban petai’n dod yn wlad annibynnol, tra dywedodd 63% y dylai’r arfau symud oddi yno, yn ôl arolwg NatCen.

Mae taflegrau Trident Faslane yn bwnc llosg, gyda rhai yn dadlau eu bod nhw’n cynnal miloedd o swyddi yn lleol, ac eraill yn dadlau eu bod nhw’n fygythiad i ddiogelwch yr Alban a thu hwnt.

Yn 2012 ymddiswyddodd dau AS Albanaidd o blaid yr SNP ar fater Trident ac aelodaeth yr Alban o NATO.