Llun sydd wedi ymddangos ar y we yn dangos gwrthryfelwyr yn anelu eu gynnau at filwyr Irac
Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi dweud nad oes bwriad i anfon lluoedd Prydain i Irac.
Dywedodd William Hague ar raglen Today ar BBC Radio 4 na fyddai Prydain yn ymyrryd yn filwrol yn yr anghydfod yn Irac, ac y byddai gan yr Unol Daleithiau fwy o adnoddau na Phrydain i wneud hynny.
Ond dywedodd y byddai Prydain yn medru helpu gydag “arbenigedd gwrth-derfysgol”, ond nid oedd yn barod i fanylu ar y mater.
Mae lluniau wedi ymddangos ar y we heddiw o gyrff rhai o filwyr llywodraeth Irac a gafodd eu dienyddio gan wrthryfelwyr Isis, mudiad sy’n galw am wladwriaeth Islamaidd yn y wlad.
Meddiannu tref yng ngogledd Irac
Mae gwrthdaro sectyddol wedi gwaethygu yn Irac a heddiw mae gwrthryfelwyr Swnni wedi meddiannu tref Tal Afar yng ngogledd Irac, ger y ffin â Syria, yn ôl maer y dref.
Dywedodd Abdulal Abdoul bod ei dref, 260 o filltiroedd o ogledd orllewin Baghdad, wedi ei meddiannu yn gynnar bore ma.
Mae gan y dref boblogaeth o tua 200,000 o bobl, y rhan fwyaf yn Shiaidd neu Swnni Turkomen.
Daw’r datblygiad diweddaraf ar ôl i wrthryfelwyr Isis gipio dinas Mosul, a thref Tikrit wythnos ddiwethaf.