Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar dri swyddog yr heddlu yn ystod digwyddiad ym Mrynmawr yn oriau man y bore.
Cafodd y tri swyddog, dwy ddynes a dyn, eu hanfon i’r digwyddiad yn Sgwâr y Farchnad tua 1yb bore dydd Llun, lle digwyddodd yr ymosodiad.
Cafodd y tri eu cludo i Ysbyty Nevill Hall am driniaeth a bellach wedi gadael yr ysbyty.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Davies bod yr ymosodiad yn “hollol annerbyniol” a bod ymchwiliad bellach ar y gweill.
Mae wedi annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r taclau’n ddienw ar 0800 555 111.