Rolf Harris
Mae llys wedi clywed bod y diddanwr Rolf Harris wedi manteisio ar ei statws fel diddanwr enwog i ymosod yn rhywiol ar ferched.
Yn Llys y Goron Southwark, dywedodd yr erlyniad fod Harris yn gweld merched fel “gwrthrychau rhywiol” y gallai gyffwrdd ynddyn nhw pryd bynnag roedd yn dymuno.
Wrth gloi’r achos yn ei erbyn, dywedodd Sasha Wass ar ran yr erlyniad, fod Harris yn credu na fyddai’n cael ei ddal.
“Fe wnaeth e dargedu ffans oedd wedi eu mesmeru gan ei enwogrwydd a’i ddoniau.
“Roedd e’n ddiddanwr plant ac roedden nhw wrth eu bodd gyda’i ganu a’i baentio.”
Ychwanegodd mai’r “gosb” iddyn nhw oedd fod Harris wedi ymosod yn rhywiol arnyn nhw.
Mae’n wynebu 12 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar bedair merch.
Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau.
Dywedodd yr erlynydd y dylid trin Harris fel dyn o flaen ei well yn hytrach na fel dyn enwog, a bod rhaid iddo “ateb y cyhuddiadau ar sail tystiolaeth fel unrhyw ddiffynnydd arall”.
Ychwanegodd na ddylai’r rheithgor gael eu dylanwadu gan ei enwogrwydd.