Madeleine McCann
Mae’r heddlu ym Mhrydain sy’n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine McCann ym Mhortiwgal yn parhau i chwilio’r safle yn agos i’r lle y diflannodd saith mlynedd yn ôl.

Fe fydd yr heddlu’n chwilio darn o dir diffaith yn Praia da Luz yn yr Algarve lle diflannodd Madeleine McCann, 3 oed, ym mis Mai 2007.

Mae plismyn arfog gyda chwn yn gwarchod y safle ddydd a nos ac mae disgwyl i swyddogion ddefnyddio offer radar arbennig i chwilio’r tir.

Mae’r tir, sydd dafliad carreg o ganolfan wyliau Ocean Club lle’r oedd Madeleine yn aros gyda’i theulu, wedi cael ei chwilio o’r blaen.

Mae Scotland Yard, sy’n cynnal ei ymchwiliad ei hun i ddiflaniad Madeleine McCann, wedi gwrthod cadarnhau adroddiadau bod plismyn o Brydain ar y safle.

Mae’r heddlu ym Mhortiwgal hefyd wedi ail-ddechrau eu hymchwiliad i ddiflaniad Madeleine McCann a thra eu bod nhw’n gweithio gyda’r heddlu yn y DU maen nhw wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad swyddogol ar y cyd.