Carwyn Jones
Mae mwy na 13,000 o gyfloedd gwaith wedi cael eu creu gan Twf Swyddi Cymru ers iddo lansio yn 2012, meddai Llywodraeth Cymru heddiw.

Mae’r ffigyrau diweddaraf am y rhaglen yn dangos bod 82% o bobl ifanc sydd wedi cael cyfleodd gwaith yn y sector breifat wedi symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy, prentisiaeth neu ddysgu pellach ar gwblhau eu chwe mis o gyfleoedd gwaith.

Mae’r ffigurau’n cael eu rhyddhau cyn cyhoeddi adroddiad diweddaraf ar Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a fydd yn edrych ar sut mae cynlluniau’r Llywodraeth yn cael effaith ar faterion allweddol fel twf a chynaliadwyedd, swyddi, iechyd, addysg a chymunedau.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf y bore ma dywedodd Carwyn Jones bod yr economi yng Nghymru yn perfformio’n well na gweddill y DU.

O ran addysg ac iechyd dywedodd bod “yn rhaid cael mwy o gysondeb” ac wrth drafod y feirniadaeth ynglyn a’r iaith dywedodd bod “pellter rhwng yr hyn mae Cymdeithas yr Iaith eisiau ei weld a beth sy’n ymarferol.”

‘Gwneud gwahaniaeth’

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud bod y ffigurau diweddaraf yn dystiolaeth bellach o effaith Twf Swyddi Cymru a’u bod nhw’n dangos sut gall y fframweithiau cywir wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

Meddai Carwyn Jones: “Pan ydych yn ystyried mai ein targed cychwynnol oedd 12,000 o swyddi yn ystod y tair blynedd gyntaf, mae’r ffaith ein bod wedi cyrraedd 13,000 yn barod yn dyst i ba mor llwyddiannus mae’r rhaglen hon wedi bod i gael pobl ifanc mewn cyflogaeth gynaliadwy.”

Mae ffigurau diweddaraf Twf Swyddi Cymru hefyd yn dangos bod 72% o’r bobl ifanc a gafodd gyfleoedd gwaith yn y sector preifat wedi mynd ymlaen i gael eu cyflogi gan yr un cyflogwr ar ôl i’w chwe mis ddod i ben.

‘Siomedig’

Ond wrth siarad cyn cyhoeddi’r adroddiad heddiw, dywedodd llefarydd busnes y Ceidwadwyr yng Nghymru, William Graham AC: “Ar ôl 15 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru yr unig beth sydd gan Carwyn Jones i’w longyfarch yw cynllun prentisiaeth lle mae 35% o’r rhai sy’n cymryd rhan yn rhoi’r gorau i’r cynllun.

“Tra bod Twf Swyddi Cymru wedi creu cyfleoedd i rai pobl ifainc, mae’n siomedig bod gweinidogion Llafur wedi methu a hybu swyddi ac entrepreneuriaeth yn fwy cyffredinol drwy dorri trethi busnes a biwrocratiaeth sy’n atal busnesau newydd rhag cael eu sefydlu.”

‘Gwarthus’

Ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dweud nad yw’r cynllun yn helpu pobl ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser hir.

Yn ol llefarydd busnes y blaid, Eluned Parrott AC, mae’n “warthus mai dim ond 5% o’r bobl ifanc sy’n rhan o gynllun Twf Swyddi Cymru oedd wedi bod yn ddi-waith ers amser hir pan mae miloedd o bobl ifainc yng Nghymru sydd wedi bod allan o waith ers mwy na blwyddyn.”