Arglwydd Rennard (Llun: PA)
Mae Nick Clegg yn wynebu argyfwng newydd wedi i gyn prif weithredwr y Democratiaid Rhyddfrydol, yr Arglwydd Rennard, ymddiheuro i bedair dynes wnaeth ei gyhuddo o aflonyddu rhywiol.

Mae’r dirprwy Brif Weinidog wedi cael ei annog i ddiarddel yr Arglwydd Rennard o’r blaid yn sgil ei oddefiad ei fod “efallai wedi tresmasu ar ‘gofod personol'” y merched, er ei fod wedi gwneud hynny yn anfwriadol.

Ond mae cyfeillion yr Arglwydd Rennard wedi awgrymu nad oes bwriad ganddo i roi’r gorau iddi ond ei fod yn gobeithio adfer chwip y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl cydymffurfio ag argymhellion ymchwiliad annibynnol i’r mater.

Mae ymddiheuriad yr Arglwydd Rennard yn dilyn mwy na blwyddyn ble mae o wedi ymateb i’r cwynion yn ei erbyn trwy wadu unrhyw ddrygioni.

Ar ôl i’r heddlu stopio eu hymchwiliad i’r honiadau, daeth ymchwiliad a gynhaliwyd ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol gan Alistair Webster QC i’r casgliad bod tystiolaeth gredadwy ei fod wedi tresmasu ar ofod personol ac awgrymodd y dylai’r Arglwydd Rennard ymddiheuro.

Pan wrthododd yr Arglwydd Rennard wneud hynny, cafodd ei wahardd dros dro o’r blaid am ddwyn anfri ar y Democratiaid Rhyddfrydol .