David Cameron
Mae David Cameron yn annog ei gyd-arweinwyr yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) i gyflwyno diwygiadau, yn sgil llwyddiant ysgubol y pleidiau ewro-sgeptig ar draws Ewrop.

Fe fydd y Prif Weinidog yn cwrdd ag arweinwyr gwledydd yr UE mewn uwch gynhadledd ym Mrwsel heddiw ac mae disgwyl i ganlyniadau’r etholiad a gyhoeddwyd nos Sul fod ar frig yr agenda.

Ym Mhrydain, Ukip ddaeth i’r brig, ac yn Ffrainc, roedd y blaid adain dde Front National yn hawlio buddugoliaeth. Y blaid adain chwith eithafol, Syriza, ddaeth i’r brig yng Ngwlad Groeg, tra bod y blaid ewrosgeptig Five Star wedi dod yn ail yn yr Eidal, ac fe enillodd y blaid gwrth-ewro, Alternatives, saith sedd yn yr Almaen.

Mewn cyfres o alwadau ffôn gydag arweinwyr yr UE dros y dyddiau diwethaf mae David Cameron wedi bod yn pwysleisio’r angen i gyflwyno newidiadau ac mae’n awyddus i’w cyflwyno cyn cynnal refferendwm  ar aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2017.

Roedd plaid Nigel Farage, Ukip, wedi bron a dyblu nifer ei Aelodau Seneddol Ewropeaidd i 24, ac mae bellach yn anelu tua San Steffan, gan ddweud fod “byddin y bobl” yn gorymdeithio tua Newark gyda’r gobaith o gipio sedd Sir Nottingham o ddwylo’r Ceidwadwyr yn yr isetholiad ar 4 Mehefin.

Yn y cyfamser mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg dan bwysau i roi’r gorau i fod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl i’r blaid golli 11 o’i 12 ASE a dod yn y bumed safle yn yr etholiadau Ewropeaidd.

Ond mae Clegg wedi mynnu ei fod eisiau “gorffen y gwaith” ac mae’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable wedi dweud “nad dyma’r amser i ddadlau o fewn y blaid a cholli’n hyder.”

Mae arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband hefyd dan bwysau i newid tactegau yn dilyn canlyniadau siomedig y blaid, a chyflwyno refferendwm ar aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yng Nghymru daeth UKIP o fewn 0.5%  i Lafur ar y brig gyda’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ymhell ar ôl.

Ond doedd yna ddim newid yn nosbarthiad y seddi, gyda Llafur, UKIP, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i gyd yn cadw sedd.