Gerry Adams (llun: PA)
Wrth i arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams, dreulio pedwerydd diwrnod mewn gorsaf heddlu yn Antrim, cynyddu mae’r tensiynau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinnes, cyd-aelod o Sinn Fein, yn cyhuddo carfan o Heddlu Gogedd Iwerddon o geisio tanseilio’r broses heddwch.
Mae wedi rhybuddio y bydd Sinn Fein yn ailedrych ar eu cefnogaeth i’r trefniadau plismona os bydd Gerry Adams yn cael ei gyhuddo.
Ar yr un pryd, mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, yr unoliaethwr Peter Robinson, yn cyhuddo Sinn Fein o geisio blacmelio’r heddlu.
“Mae’r bygythiad yma’n golygu y bydd dinasyddion cyffredin yn dod i’r casgliad bod Heddlu Gogledd Iwerddon a’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus wedi ildio i fygythiad gwleidyddol os na bydd Adams yn cael ei gyhuddo,” meddai.
Mae arweinydd Sinn Fein yn dal i gael ei holi ynghylch llofruddiaeth Jean McConville yn 1972. Roedd y fam i 10 o blant wedi cael ei llusgo o’i chartref yn Belfast a’i saethu gan aelodau o’r IRA a oedd yn ei chyhuddo o helpu lluoedd arfog Prydain.
Bydd y 48 awr o amser ychwanegol a gafodd ditectifs i holi Gerry Adams yn dod i ben yn hwyrach heddiw.