Mae cynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, yr NUT, wedi pleidleisio o blaid cynnal streic un-dydd yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 23 Mehefin fel rhan o ymgyrch ynglyn â chyflogau ac amodau gwaith.
Mae’r undeb yn dweud y dylid cynnig codiad cyflog i athrawon i wneud yn iawn am yr hyn y mae nhw’n honni sy’n dorriadau yn eu cyflogau ers 2010.
Penderfynodd cynhadledd yr NUT yn Brighton yn erbyn cynnal pedwar niwrnod o streicio yn yr hydref ond o blaid ymgynghori efo’r aelodau am gynnal rhagor o streiciau yn yr hydref ac yn 2015.
Mae undeb yr NASUWT eisoes wedi penderfynu gweithedu yn ddiwydianol cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Addysg, sy’n gyfrifol am addysg yn Lloegr, bod cynnal streic “yn ddiangen”.
“Bydd cynnal streic arall yn gwneud dim ond tarfu ar fywydau rhieni, amharu ar addysg plant a gwneud niwed i enw da y proffesiwn,” meddai.