Mae disgwyl i grwp Co-op gyhoeddi colledion o hyd at £2.5 biliwn heddiw yn dilyn trafferthion o fewn y grwp.

Mae cynlluniau ar gyfer diwygiadau mawr i’r busnes wedi cael eu llunio gan y cyn weinidog yn y Ddinas, yr Arglwydd Myners. Mae’n rhoi’r bai am y ffigurau trychinebus ar gyn reolwyr y grwp.

Mewn erthygl yn y Daily Mirror mae’n eu cyhuddo o fod ag agwedd “ddi-hid” tuag at brynu busnesau – o Gymdeithas Adeiladu Britannia i archfarchnadoedd Somerfield – a’u bod wedi gwneud penderfyniadau “trychinebus drosodd a throsodd.”