Michael Fabricant
Mae cyn chwip y Torïaid, Michael Fabricant, wedi cael ei ddiswyddo fel is gadeirydd y blaid Geidwadol – yn dilyn ei feirniadaeth o gynllun rheilffordd gyflym HS2 a’i sylwadau am y ffrae ynglŷn â Maria Miller.
Yn ôl yr AS, gofynnwyd iddo adael ei swydd o’i wirfodd ond wedi iddo wrthod, cafodd ei ddiswyddo gan gadeirydd y blaid, Grant Shapps.
Cyhoeddodd ar ei gyfrif trydar: “Gofynnwyd i mi ymddiswyddo fel is-gadeirydd, wnes i wrthod, felly cefais y sac dros HS2 a fy marn dros weinidog Cabinet diweddar.”
Ar ôl i Maria Miller ymddiswyddo ddoe, dywedodd ar ei gyfrif trydar: “Wel, hen bryd.”
Roedd yr AS dros Lichfield hefyd wedi lansio cais i atal y cynllun ar gyfer HS2, sydd werth £50 biliwn, rhag mynd ymlaen. Roedd wedi galw am welliant i’r cynllun ac i Lywodraeth Prydain greu rheilffordd ratach ac a fyddai’n fwy ystyriol o’r amgylchedd.
Bydd Michael Fabricant yn siarad yn Ninas Powys, Morgannwg heno.