Mae arolwg rhyngwladol o addysg yng Nghymru  wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ei  “diffyg gweledigaeth hir dymor” wrth geisio llywio newidiadau.

Yn ôl y  Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), y sefydliad  sy’n gyfrifol am asesiadau addysg fyd-eang PISA, mae gormod o newidiadau wedi cael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn amser cyfyngedig gan olygu bod athrawon yn teimlo dan bwysau cynyddol.

Llywodraeth Cymru oedd wedi gofyn i’r OECD yn 2012 i ymchwilio i’r gyfundrefn addysg a gwneud argymhellion ar gyfer ei gwella.

Mae arolwg OECD yn cydnabod fod yna lawer wedi ei wneud ond mae’n galw am strategaeth glir, hirdymor gan Lywodraeth Cymru, gyda llai o flaenoriaethau.

Yn ol OECD fe ddylai Cymru ganolbwyntio ar faterion sylfaenol fel gwella safonau dysgu drwy godi statws y proffesiwn,  rhoi gwell hyfforddiant i ddarpar-athrawon, a rhoi mwy o sylw i ddisgyblion sy’n tangyflawni.

‘Perfformiad isel’

Mae’r sefydliad hefyd yn argymell newidiadau i’r system fandio dadleuol mewn ysgolion uwchradd.

Roedd canlyniadau PISA a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd yn dangos mai Cymru oedd a’r canlyniadau gwaethaf ymhlith gwledydd Prydain, gan ddod yn safle 43 o 68 o wledydd ym mathemateg, 42 ar gyfer darllen a 36 mewn gwyddoniaeth – safleoedd is na’r tair blynedd flaenorol.

Dywed arolwg OECD bod perfformiad gormod o fyfyrwyr yn isel.

Mae’r Gweinidog Addysg wedi croesawu argymhellion arolwg OECD ac mae disgwyl iddo drafod yr adroddiad gyda phwyllgor addysg OECD ym Mharis ddiwedd yr wythnos.

Dywedodd Dr Phil Dixon, cyfarwyddwr undeb ATL Cymru, fod yr adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg gweledigaeth hir dymor y Llywodraeth a’r ffaith nad oes digon o gefnogaeth i ysgolion a bod llawer gormod o newidiadau wedi eu cyflwyno.

Ychwanegodd bod yr adroddiad yn dystiolaeth bellach bod angen cael gwared a’r system fandio a bod angen ariannu ysgolion yn well er mwyn gwella perfformiad.