Peaches Geldof
Fe fydd post mortem yn cael ei gynnal heddiw yn dilyn marwolaeth sydyn Peaches Geldof yn 25 oed ddydd Llun.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Wrotham yng Nghaint tua 1.35 brynhawn Llun, lle cafwyd hyd i’w chorff.

Ar hyn o bryd mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un sydyn ac anesboniadwy, yn ôl Heddlu Caint.

Mae ei thad Bob Geldof wedi dweud bod y teulu “y tu hwnt i boen” yn dilyn ei marwolaeth.

Roedd Peaches Geldof yn briod â’r cerddor Thomas Cohen, ac roedd ganddyn nhw ddau fab ifanc.

Bydd canlyniadau’r profion post mortem yn penderfynu os fydd agen cynnal cwest yn y dyfodol.