Simon Thomas
Mae Plaid Cymru wedi datgelu cynlluniau i sicrhau bod ysgolion cynradd yn dysgu trydedd iaith i’r disgyblion.

Dywed llefarydd addysg y Blaid, Simon Thomas mai eu nod yw “normaleiddio amlieithrwydd”.

Cafodd papur ei lansio heddiw yn amlinellu cynlluniau Plaid Cymru i “gynnig mwy o lwybrau addysg i bobol ifanc ddysgu ieithoedd”.

Maen nhw’n bwriadu tynnu sylw at fanteision cymdeithasol, economaidd a phersonol dysgu trydedd iaith yn yr ysgol gynradd.

Mae’r papur yn trafod modelau Ewropeaidd lle mae trydedd iaith yn cael ei dysgu i blant o oedran ifanc.

Dywed Simon Thomas fod dysgu o leiaf ddwy iaith dramor am flwyddyn yn ystod addysg orfodol yn “rheidrwydd” yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop.

Diffyg iaith dramor yw un o’r gwendidau mae cyflogwyr yn aml yn tynnu sylw ato.

Yn ogystal, mae’r papur yn ystyried dulliau i wella’r ddarpariaeth o ran dysgu Cymraeg, ac yn awgrymu dysgu dwyieithog yn y Cyfnod Sylfaen yn hytrach na dysgu Cymraeg fel ail iaith.

‘Diffyg sgiliau iaith dramor’

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas: “Mae llawer o dystiolaeth sy’n dangos fod diffyg cynyddol mewn sgiliau iaith dramor.

“Mae cyflogwyr yn dweud wrthym, er eu bod yn cyfrif bod ieithoedd yn sgil pwysig, na allant recriwtio digon o staff gyda sgiliau iaith cryf.

“Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn economi byd-eang lle mae’r galw am sgiliau iaith yn ehangu.

“Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae dysgu o leiaf ddwy iaith ychwanegol yn orfodol i ddisgyblion.

“Dengys ymchwil fod y gallu i gyfathrebu mewn o leiaf ddwy iaith fanteision datblygol i blentyn, a’i fod hefyd yn creu manteision economaidd trwy agor y drws i fwy o swyddi, cryfhau ein gweithlu a’n gwneud yn fwy sefydlog mewn economi fyd-eang.

“Rydym hefyd eisiau gwella dysgu Cymraeg. Ar hyn o bryd, nid yw hyd at hanner y myfyrwyr sy’n astudio Cymraeg fel Ail Iaith yn ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg ar ddiwedd y cwrs.

“Profwyd fod cyflwyno Cymraeg fel rhan o’r Cyfnod Sylfaen wedi cael effaith llesol.”

‘Newyddion calonogol’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu cynlluniau Plaid Cymru.

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n croesawu papur polisi Plaid Cymru’n fawr. Yn wir, wnaethon ni fabwysiadu polisi tebyg yn ein Cyfarfod Cyffredinol y llynedd.

“Dylai’r Llywodraeth sicrhau bod pob plentyn yn cael y manteision sy’n deillio o’r ffaith bod Cymru yn wlad gyda’i hiaith unigryw genedlaethol. Felly, mae’n newyddion calonogol bod Simon Thomas wedi lansio’r papur yma, a fyddai’n sicrhau llwybr tuag at wireddu argymhellion annibynnol yr Athro Sioned Davies.

“Wrth gwrs, mae’r papur yma yn gwrthgyferbynnu’n llwyr gyda diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru, sy’n brysur yn gwneud dim byd yn y maes.”