Arlywydd Catalwnia, Artur Mas
Mae Senedd Sbaen wedi penderfynu peidio rhoi’r hawl i Gatalwnia alw refferendwm ar gyfer eu trigolion nhw yn unig.

Yn dilyn bron i saith awr o drafodaeth a dadleuon ynghylch deiseb gan y ddwy ochr neithiwr, cafodd y cynnig ei wrthod o 299 pleidlais i 47.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno yn dilyn penderfyniad Senedd Sbaen ddiwedd mis Chwefror i beidio rhoi’r hawl i Gatalwnia alw refferendwm.

Adeg hynny, dywedodd un o drigolion Barcelona wrth Golwg360 ei bod hi am weld Catalwnia’n cynnal refferendwm beth bynnag fyddai penderfyniad llywodraeth Sbaen.

Dywedodd Berta Gelabert Vilà: “Gobeithio y bydd llywodraeth Catalwnia’n ddigon dewr yn y pen draw i gynnal y refferendwm hyd yn oed os nad yw Sbaen yn ei ganiatáu.

“Yma, mae yna ddywediad, ‘Os daw’r heddlu i gymryd y blychau pleidleisio, yna fe fyddwn ni wedi ennill’, sef y byddai gweddill y byd yn gweld sut mae llywodraeth Sbaen yn ymateb.”

Beth nesa?

Mae Arlywydd Catalwnia, Artur Mas, nad oedd yn bresennol yn y Senedd neithiwr, wedi addo parhau â’r bwriad i gynnal y refferendwm, gan anwybyddu canlyniad y bleidlais.

Mae’r ymgyrch wedi magu coesau ers i lywodraeth Catalwnia fethu â sicrhau cytundeb ariannol digonol i’r wlad yn 2012.

Mae llywodraeth Sbaen yn dadlau o hyd na all Catalwnia yn unig benderfynu ar fater sy’n effeithio Sbaen gyfan.

Dywedodd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy yn ystod y drafodaeth fod caniatáu’r refferendwm yn erbyn y Cyfansoddiad.

Bu’r cenedlaetholwyr yn galw am newid Cyfansoddiad 1978 Sbaen er mwyn rhoi’r hawl i Gatalwnia gynnal refferendwm.

Ond mae llywodraeth Catalwnia wedi datgan eu bwriad i gynnal y refferendwm ar Dachwedd 9 er gwaetha’r siom diweddaraf.