Senedd yr Alban
Mae helynt o fewn Llywodraeth Prydain ar ôl i un o’i gweinidogion wneud sylwadau di-enw a oedd yn croes-ddweud polisi’r Llywodraeth o wrthod undod ariannol petai’r Alban yn mynd yn annibynnol.

Roedd y gweinidog di-enw wedi dweud wrth bapur newydd y Guardian y byddai “wrth gwrs” undod ariannol ar ôl i’r Alban fynd yn annibynnol, ac y byddai’r ddwy lywodraeth yn gorfod bargeinio ar gyfer cyflawni hyn.

Roedd hyn yn gwbl groes i’r hyn mae’r Canghellor George Osborne a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander wedi bod yn ei ddadlau, a hynny gyda chefnogaeth canghellor yr wrthblaid Ed Balls, na allai undod ariannol fyth weithio.

Mae pwnc yr arian wedi bod yn un ddadleuon allweddol yr ymgyrch yn erbyn annibyniaeth, ac mae sylwadau’r gweinidog di-enw wedi gorfodi’r Canghellor i geisio lleihau’r difrod.

Mae ffynhonnell o 10 Stryd Downing wedi cadarnhau eu bod nhw wrthi’n chwilio pwy yw’r gweinidog di-enw ond yn cyfaddef nad ydyn nhw’n gwybod pwy ydyw eto.

Arolygon barn

Yn y cyfamser, darlun cymharol gymysg a gafwyd mewn arolygon barn dros yr wythnos ddiwethaf o ran lle mae’r ddwy ochr arni yn ymgyrch y refferendwm ar annibyniaeth.

Roedd arolwg ddydd Sul diwethaf yn awgrymu bod y bwlch yn cau rhwng y ddwy ochr, gyda 39% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio o blaid – cynnydd o ddau bwynt o gymharu â’r mis cynt – gyda’r rhai a fyddai’n pleidleisio Na i lawr o 49% i 46%.

Roedd arolwg barn a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth fodd bynnag yn dangos dim ond 28% yn bwriadu pleidleisio o blaid o gymharu â 42% yn erbyn, gyda 30% yn dal heb benderfynu.

Mewn arolwg arall eto ddydd Mercher, roedd y gefnogaeth i annibyniaeth i fyny ddau bwynt canran i 37%, o gymharu â 52% yn erbyn, a oedd i lawr un pwynt.