Ed Miliband, arweinydd y Blaid Lafur
Mae mantais y Blaid Lafur ar y Torïaid i lawr i un pwynt canran bellach, yn ôl arolwg barn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae’r arolwg, ym mhapur newydd yr Observer, yn rhoi Llafur ar 33%, sydd i lawr ddau bwynt o gymharu â phythefnos yn ôl, a’r Torïaid ar 32% sydd i fyny ddau bwynt. Mae hyn yn awgrymu bod cyllideb George Osborne ar 19 Mawrth wedi helpu cynyddu poblogrwydd y llywodraeth.

Mae’r arolwg yn rhoi Ukip ar 15% (i lawr un pwynt) a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddigyfnewid ar 10%.

Mae cyfres o arolygon barn wedi awgrymu bod y bwlch yn cau rhwng Llafur a’r Torïaid, ond mae hwn yn dangos y gefnogaeth isaf i Lafur ers 2010.

Cafodd 1,936 o oedolion eu holi ar-lein rhwng 25 a 28 Mawrth ar gyfer yr arolwg.