Mae Llywodraeth Iwerddon wedi lansio ymchwiliad i adroddiadau am glustfeinio ar alwadau ffôn yng ngorsafoedd y Garda – oriau’n unig ar ôl i bennaeth yr heddlu ymddiswyddo.

Yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet, mae’r llywodraeth wedi rhyddhau datganiad yn dweud eu bod yn “bryderus iawn” am yr adroddiadau.

Mewn datganiad dywedodd y Llywodraeth: “Yng nghyd-destun camau cyfreithiol mewn achos arbennig, mae’r Llywodraeth wedi clywed bod system mewn lle mewn nifer fawr o orsafoedd Garda lle’r oedd galwadau ffôn yn cael eu recordio.

“Roedd y Llywodraeth wedi cael gwybod am y wybodaeth newydd yma yn ei chyfarfod heddiw. Gan fod y mater gerbron y llysoedd, ni fyddai’n briodol gwneud unrhyw sylwadau pellach yn yr achos yma.”

Roedd y clustfeinio wedi bod yn digwydd “ers nifer o flynyddoedd ac wedi dod i ben ym mis Tachwedd 2013” ond nid yw’n glir ar hyn o bryd pam fod y system mewn lle yn y lle cyntaf.

Mae’r Garda a’r Adran Gyfiawnder wedi cael gorchymyn i adrodd yn ôl i’r Llywodraeth am yr honiadau diweddaraf.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymddiswyddiad annisgwyl Comisiynydd y Garda Martin Callinan a ddywedodd ei fod yn ymddeol am resymau teuluol. Mae’n dilyn misoedd o honiadau o gamweithredu o fewn yr heddlu.