Mae trafodaeth radio a gafodd ei darlledu ar BBC Radio Wales ddoe yn parhau i godi gwrychyn heddiw wrth i Ofcom ddatgelu fod 22 o bobol wedi gwneud cwyn hyd at brynhawn yma.

Roedd rhaglen Oliver Hydes ar Radio Wales wedi gofyn i’r gwrandawyr: “A ydy’r iaith Gymraeg yn eich cynddeiriogi chi?”

Dywed Ofcom Cymru y byddan nhw’n asesu’r cwynion ac yn gwneud penderfyniad yn “eitha buan” ar p’un ai i weithredu ar y cwynion. Y cam cyntaf fyddai gofyn i’r BBC am esboniad.

Mae Radio Wales heddiw wedi ymddiheuro fod neges drydar wedi ei “geirio’n wael” ac nad oedd yn “dal bwriad golygyddol y rhaglen.”

Cwestiynu doethineb’

Mae Rhun ap Iorwerth, un o gyn-gyflwynwyr Radio Wales a bellach Aelod Cynulliad Ynys Môn, wedi cwestiynu “doethineb golygyddol” y rhaglen.

Ac mae’r darlledydd Catrin Beard yn un sydd wedi bod yn trydar i annog pobol i anfon cwyn at Ofcom:

“Cymerodd 5 munud – ewch ati” meddai.

Ddoe roedd BBC Cymru wedi amddiffyn y rhaglen gan ddweud nad y bwriad oedd awgrymu fod cael eich cynddeiriogi gan y Gymraeg yn safbwynt dilys.