Fe fyddai cynllun Llafur i roi sicrwydd o swyddi i bobl ifainc sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na blwyddyn, yn parhau am bum mlynedd, meddai’r blaid.

Daw’r cyhoeddiad ynglŷn â’r cynllun ym maniffesto’r blaid ar gyfer etholiad cyffredinol 2015, lai na mis ers i’r Blaid Lafur ddweud y byddai’r cynllun yn parhau am flwyddyn yn unig.

O dan y cynllun, fe fyddai pobl ifainc o dan 25 oed sydd wedi bod yn ddi-waith er mwy na blwyddyn yn gorfod cymryd swydd am chwe mis neu wynebu colli eu budd-daliadau.

Fe fyddai cwmnïau a grwpiau yn y sector gwirfoddol yn rhoi gwaith am 25 awr yr wythnos dros gyfnod o chwe mis ar isafswm cyflog – gyda’r Llywodraeth yn talu’r cyflogau ac Yswiriant Cenedlaethol y cyflogwyr.

Fe fyddai £500 yn cael ei roi at hyfforddi pob un o’r rhai sy’n cael eu cyflogi – sy’n orfodol i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Yn ôl y Blaid Lafur dim ond cwmnïau sy’n gallu dangos nad ydyn nhw’n defnyddio’r cynllun  i gael gwared a staff sydd eisoes yn cael eu cyflogi yno, neu leihau eu horiau gwaith, fyddai’n gymwys i gymryd rhan yn y cynllun.

Ym mis Chwefror dywedodd y blaid bod arian ar gael ar gyfer y cynllun yn 2015/16 ond nid ar ôl hynny. Bellach, dywed y blaid bod y cynllun yn fforddiadwy hyd at 2020.

Bwriad y blaid yw ariannu’r cynllun drwy drethu bonysau banciau a gwasgu ar bensiynau’r rhai sydd ar gyflogau mawr.

Ond mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu’r cynlluniau gan gyhuddo Ed Balls o ddefnyddio’r dreth ar fonysau banciau am nifer o wahanol gynlluniau sy’n rhan o faniffesto’r blaid.

Mae’r Ceidwadwyr a’r Trysorlys wedi amcangyfrif y byddai’r cynllun swyddi yn costio £2.6 biliwn y flwyddyn ac maen nhw wedi awgrymu na fyddai’r dreth ar fonysau a gwasgu ar bensiynau yn ddigon i ariannu’r cynllun.