Nigel Evans
Mae Nigel Evans, cyn ddirprwy lefarydd Ty’r Cyffredin, wedi cyrraedd Llys y Goron Preston bore ma i wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn saith o ddynion.

Mae Evans, 56 oed, sy’n enedigol o Abertawe ac yn Aelod Seneddol Ribble Valley yn Sir Gaerhirfryn, yn wynebu naw cyhuddiad sy’n dyddio nol i 2002 hyd at 1 Ebrill y llynedd.

Mae’n gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, chwe cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ac un cyhuddiad o dreisio.

Mae disgwyl i’r achos barhau am bedair wythnos.