Laura a Helen Pankhurst (Llun: PA)
Mae gor-or-wyres arweinydd y Suffragettes, Emmeline Pankhurst, a’i mam wedi dilyn yn ôl ei thraed heddiw, trwy arwain gorymdaieth ffeminyddol trwy ganol Llundain.

Laura Pankhurst,19, a’i mam, Dr Helen Pankhurst, oedd ar flaen yr orymdaith o ymgyrchwyr tros hawliau merched wedi’u gwisgo yn lliwiau’r mudiad Suffragettes o biws, gwyrdd a gwyn yn ystod digwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw.

Roedd yr orymdaith yn rhan o weithgaredau’r elusen CARE sy’n annog pobol i feddwl sut fath o beth ydi gorfod cerdded milltiroedd yng ngwledydd y Trydydd Byd i nôl digon o ddwr ar gyfer y teulu cyfan.

Mae Laura Pankhurst yn fyfyrwraig blwyddyn gynta’ ym Mhrifysgol Caergrawnt yn astudio’r Gyfraith. Yn cerdded gyda hi heddiw roedd y ddarlledwraig, Sandi Toksvig; yr ymgyrchwyr tros hawliau merched Caroline Criado-Perez a Laura Bates; ynghyd â sylfaenydd y mudiad No More Page 3, Lucy-Anne Holmes.