Y Tywysog Andrew
Mae Downing Street wedi dweud eu bod nhw’n cefnogi Dug Efrog ar ôl galwadau iddo ymddiswyddo o fod yn gennad masnachol i Brydain.
Roedd yr Ysgrifennydd Busnes wedi awgrymu y bore yma y byddai’n rhaid i’r Dug benderfynu a oedd am aros yn y swydd ai peidio.
Ond dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog, David Cameron, heddiw fod ganddyn nhw hyder llwyr yn Tywysog Andrew ac yn credu y dylai aros yn ei swydd.
Pwysleisiodd y llefarydd nad oedd y Llywodraeth yn ystyried y dylai swydd gwirfoddol y Dug ddod i ben ar ôl 10 mlynedd.
Roedd amheuon newydd am swydd y Tywsog Andrew ar ôl adroddiadau yn y wasg dros y penwythnos am ei gysylltiadau â’r biliwnydd Americanaidd, Jeffrey Epstein.
Cafodd hwnnw ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar yn 2008 am droseddau rhyw.
Mae’r Tywysog Andrew hefyd wedi ei feirniadu am groesawu mab yng nghyfraith cyn arlywydd Twnisia, El Abidine Ben Ali, i Balas Buckingham.
Cyfaddefodd ffynhonell o fewn Stryd Downing wrth y BBC bore ma y gallai un stori ddifrifol arall am y Tywysog Andrew ei gwneud hi’n anodd iddo barhau yn ei swydd.