Alan Pardew yn ffraeo efo David Meyler (Llun: gwefan Newcastle United)
Mae clwb pêl-droed Newcastle wedi dirwyo’r rheolwr o £100,000 ar ôl iddo benio David Meyler, un o chwaraewyr Hull City ddoe.

Collodd Alan Pardew ei dymer pan wnaeth Meyler wthio heibio i geisio gael gafael ar y bêl tra roedd Hull City a Newcastle yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn Hull.

Mae datganiad ar ran Newcastle yn dweud bod Alan Pardew wedi ymddiheuro o waelod calon am yr hyn ddigwyddodd a’i fod yn edifarhau yn arw am yr hyn wnaeth o.

Mae’r datganiad hefyd yn dweud bod ymddygiad Pardew “yn gwbl annerbyniol” ac “nid y math o ymddygiad yr ydym yn ei ddisgwyl gan y rheolwr.”

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi dweud y byddan nhw hefyd yn cynnal ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd.