Y Scarlets oedd yn fuddugol yn y gêm yn erbyn Munster ar Barc y Scarlets heno (nos Sadwrn).

Gareth Davies sgoriodd gais cyntaf y Scarlets ond erbyn diwedd yr hanner cyntaf roedd Gerhard van den Heever hefyd wedi sgorio cais a Munster oedd ar y blaen 8 – 11.

Fe wnaeth cais gan John Barclay beth bynnag gario dydd i’r Cymry a gadael Munster i golli eu trydydd gêm Pro12 yn olynol.