Mae teithiwr Prydeinig wedi’i gyhuddo o ladrata diemwnt mawr pic gwerth 250,000 o ddoleri Awstralia.

Mae Matthew Osborne wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Cairns yn Awstralia wedi’i gyhuddo o ddwyn y garreg Argyle p siop yn y ddinas ddydd Sadwrn diwetha’.

Fe gafodd Matthew Osborne ei arestio ym Maes Awyr Melbourne wrth iddo geisio hedfan i Seland Newydd.

Fe gafodd ei hedfan, yn hytrach, gan yr heddlu i ddinas Cairns mewn cyffion.