Mae criw o forwyr o wledydd Prydain wedi bod yn rhan o gyrch i atal llwyth gwerth £8.5m o’r cyffur cocên ym Môr y Caribi.

Roedd y cwch Wave Knight yn rhan “allweddol”, meddai’r awdurdodau, wrth i Wylwyr y Glannau’r Unol Daleithiau atal bad amheus.

Fe gafodd bwledi rhybudd eu tanio wrth i’r cludwyr cyffuriau geisio glanio gyda’u cargo.

Roedd pecynnau yn pwyso cyfanswm o 170kg ar fwrdd y bad, ac fe gafodd dau ddyn eu harestio a’u cludo i dir mawr yr Unol Daleithiau.