Bwyty'r Marine
Roedd yn rhaid i’r gwasanaethau brys achub 32 o bobl o fwyty ger glan y môr yn Hampshire neithiwr.

Roeddynt yn mwynhau swper San Ffolant yn mwyty y Marine yn Milford on Sea pan gafodd ffenestri ar lawr gwaelod y bwyty eu malu’n rhacs gan nerth y gwynt.

Roedd yn rhaid i’r cwsmeriaid gilio i lawr cyntaf yr adeilad wrth i’r môr lifo i mewn i’r bwyty. Galwyd ar y fyddin i gynorthwyo ac fe gafodd y cwsmeriaid a’r staff eu tywys oddi yno mewn dau gerbyd chwe olwyn oedd yn eiddo i’r fyddin.

Dywedodd James McCrossan, sy’n chef yn y bwyty, fod gwydr yn hedfan ymhobman. “Doedd hi ddim yn saff i unrhyw un,” meddai. “Dydw i erioed wedi gweld fath beth, a dwi’n gobeithio na welai ddim byd tebyg byth eto.”