Mae prif swyddog heddlu wedi rhybuddio ynglyn â’r gost o blismona safle protest yn erbyn ffracio yn Lloegr.

Yn ôl Syr Peter Fahy, Prif Gwnstabl Heddlu Greater Manchester, mae’r gost o blismona safle Barton Moss, ger Salford, eisoes wedi cyrraedd £660,000 – ac fe allai gyrraedd £1m.

Ond yn ogystal â’r gost, meddai, mae’r weithred o anfon saith o swyddogion yno bob dydd, yn golygu nad ydi’r plismyn hynny ar gael i weithio ar achosion o dor-cyfraith na cherdded y bît.

Ers mis Tachwedd y llynedd, mae nifer o bobol wedi cael eu harestio, wrth iddyn nhw geisio amharu ar y gwaith sy’n digwydd rhwng Maes Awyr Barton a thraffordd yr M62.

Mae cwmni egni IGas wedi cael caniatâd i ddrilio ar y safle, er mwyn chwilio am nwyon methan a siâl.