Fe allai cymaint â 650 o weithwyr golli eu swyddi yn ffatri gacennau Avana Cake yng Nghasnewydd, wedi i siopau mawr Marks & Spencer benderfynu terfynu eu cytundeb.
Yn ôl datganiad gan y cwmni heddiw, mae penderfyniad M&S i roi’r gwaith o gynhyrchu cacennau i gwmni arall yn mynd i fod yn ergyd drom i’r busnes ac i’r ardal, er eu bod yn benderfynol o wneud eu gorau i “ail-adeiladu’r busnes” trwy chwilio am gwsmeriaid eraill.
“Ein nod ni nawr, ar frys, yw creu strategaeth a fydd yn lleihau effaith hyn ar y cwmni ac ar ein gweithwyr,” meddai llefarydd ar ran y cwmni, Avana Bakeries.
“Ein blaenoriaeth yw trafod gyda’n cydweithwyr ac edrych mewn i bob opsiwn posib, cyn cymryd ein cam nesa’.
“R’yn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu aros yng Nghasnewydd.”
Mae cwmni Mars & Spencer, hefyd, fore heddiw, wedi dweud y bydd yn gwneud “popeth o fewn ei allu” i gefnogi Avana Bakeries yn ystod y cyfnod nesa’.