Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diweddariad o’r Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 23, sef canllawiau ar ddatblygu’r economi.

Mae’n cael ei gyhoeddi yn dilyn adolygiad o’r bennod Datblygu Economaidd ym Mholisi Cynllunio Cymru ym mis Tachwedd 2012, pan welwyd bod angen TAN i roi cyngor polisi fwy manwl.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Daeth 58 ymateb oddi wrth amrywiol sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau cynllunio lleol a chynrychiolwyr o’r sector preifat. Ystyriwyd yr ymatebion wrth ddatblygu’r TAN.”

‘Hanfodol i lwyddiant economi Cymru’

Wrth gyflwyno’r canllawiau dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth sy’n bosibl i fynd i’r afael ag achosion a symptomau’r dirwasgiad, ac yn benderfynol o gefnogi twf economaidd cynaliadwy ar draws Cymru gyfan.

“Mae’r canllawiau hyn yn rhoi eglurder i awdurdodau cynllunio lleol wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol a gwneud penderfyniadau cynllunio.

“Hefyd mae’n egluro pwysigrwydd cydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol ar lefel ranbarthol, ac yn dangos sut y gellid cyflawni hyn drwy rannu sgiliau ac adnoddau a pharatoi astudiaethau economaidd rhanbarthol ar y cyd.

“Mae’r system gynllunio’n hanfodol ar gyfer llwyddiant economi Cymru, ac fe fydd y canllawiau hyn yn sicrhau bod cyfleoedd i greu swyddi a chyfoeth yn arwain at ddyfodol mwy llewyrchus i bob cymuned.”

Mae modd darllen y canllawiau newydd yn fan hyn.