Fe fydd miloedd o weithwyr Ford yn pleidleisio ynglŷn â chynnal streic mewn ffrae dros swyddi a phensiynau.

Bydd aelodau undebau Unite a GMB yn safleoedd y cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Dagenham yn Essex a Halewood ar Lannau Mersi, yn pleidleisio yn ystod yr wythnosau nesaf ynglŷn â gweithredu’n ddiwydiannol.

Dywed Unite bod gweithwyr eisiau mwy o sicrwydd am eu swyddi yn y dyfodol yn ogystal â gwelliannau i’w cynllun pensiwn. Mae’n dilyn nifer o ddiswyddiadau yn y DU yn ddiweddar ynghyd a chau’r ffatri yn Southampton.

“Nid yw’r cais yn un afresymol,” meddai swyddog cyffredinol Unite, Roger Maddison. “Ond mae’r cwmni yn gwrthod rhoi’r un hawliau i’w gweithlu yn y DU a’r gweithwyr yn yr Undeb Ewropeaidd.”