Mae disgwyl i gwmni ynni SSE wneud elw o £1.54 biliwn eleni – deufis ar ol cyhoeddi cynnydd sylweddol mewn biliau ynni i gwsmeriaid.

Fe fydd y cyhoeddiad yn debygol o gorddi’r dyfroedd unwaith eto ar ol i’r Blaid Lafur alw am roi cap ar filiau nwy a thrydan wrth i gyflogau gael eu gwasgu.

Roedd SSE, sy’n berchen Swalec, Southern Electric a Scottish Hydro, wedi cynhyddu prisiau ynni o 8.2% ar gyfartaledd o fis Tachwedd, gan roi’r bai ar dreth werdd y Llywodraeth a’r cynnydd mewn costau ynni.

Fe fydd biliau’n gostwng 3.5% ar gyfer holl gwsmeriaid y grwp o 24 Mawrth o ganlyniad i’r arbedion a wnaed yn sgil newidiadau i’r dreth werdd.

Dywedodd prif weithredwr SSE Alistair Phillips-Davies ei bod yn galonogol bod y cwmni’n gwneud elw ac yn gallu rhannu eu llwyddiant gyda chyfranddalwyr yn ystod “awyrgylch busnes heriol.”

Mae disgwyl i elw cyn treth y cwmni godi 8.8% i £1.54 biliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.