Arglwydd Rennard
Mae ffrae yn corddi ymhlith y Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â’r ffordd y cafodd honiadau o ymddygiad amhriodol yn erbyn aelod blaenllaw o’r blaid eu trin.

Mae disgwyl i’r Arglwydd Rennard gymryd camau cyfreithiol ar ôl iddo gael ei wahardd o’r blaid ddoe wrth i ymchwiliad gael ei gynnal am ddwyn anfri ar y blaid a gwrthod ymddiheuro i bedair merch oedd wedi cwyno am ei ymddygiad.

Mae’r ffrae wedi achosi rhwyg yn y blaid gyda chefnogwyr  yr Arglwydd Rennard yn honni nad yw’r blaid wedi delio gyda’r cwynion yn y modd cywir, ac eraill yn dweud y dylai camau fod wedi cael eu cymryd yn ei erbyn yn llawer cynt.

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg wedi mynnu ddoe na fyddai’r Arglwydd Rennard yn cael dychwelyd i grwp y blaid yn Nhy’r Arglwyddi nes ei fod yn ymddiheuro.