Mikaeel Kular
Mae mam Mikaeel Kular wedi  ymddangos yn y llys prynhawn ma ar gyhuddiad o lofruddio’r bachgen 3 oed.

Rosdeep Kular, 33 oed, wedi ymddangos gerbron Llys Siryf Caeredin ar gyhuddiad o lofruddio ei mab a cheisio rhwystro cyfiawnder rhag cael ei weithredu.

Nid oedd Kular wedi cyflwyno ple yn ystod y gwrandawiad a chafodd ei chadw yn y ddalfa.

Cafwyd hyd i gorff Mikaeel Kular yn Fife nos Wener, ar ôl adroddiadau ei fod wedi diflannu o’i gartref yng Nghaeredin y diwrnod cynt.

Roedd  cannoedd o wirfoddolwyr wedi ymuno a’r heddlu i chwilio amdano.

Nos Sadwrn, dywedodd Heddlu’r Alban bod dynes 33 oed wedi cael ei harestio a’i chyhuddo mewn cysylltiad â’i farwolaeth.

Mae disgwyl i Kular fynd gerbron llys eto ar 28 Ionawr.